Gareth Thomas o Wynedd yn cwrdd ag Aelodau Cynulliad i drafod ysgolion gwledig

llyr_gareth_thomas_sian_simon.JPG

Fe wnaeth y Cynghorydd Gareth Thomas o Wynedd gwrdd gyda’r Aelodau Cynulliad Llyr Gruffydd, Siân Gwenllian a Simon Thomas yn y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd.

Roedd y Cynghorydd Sir dros Benrhyndeudraeth ac aelod cabinet y Sir dros addysg yna i drafod ysgolion gwledig gyda’r Aelodau Cynulliad.

Mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grant newydd o £2.5m y flwyddyn i ysgolion gwledig a bychain i gefnogi cydweithio rhwng ysgolion.

Mae hyn yn cynnwys annog defnydd uwch o dechnoleg i ymladd achosion o unigedd proffesiynol, darparu cefnogaeth weinyddol yn ysgolion lle mae gan y prif athro ymrwymiadau addysgu sylweddol a chynyddu defnydd cymunedol o adeiladau’r ysgol. Mi fydd y grant ar gael o Fis Ebrill 2017.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.