Ysgrifennydd Cabinet cysgodol yn amlinellu ei weledigaeth am bolisi ynni i Gymru

30867030850_a3edbb8cac_z.jpg

Mae AC Plaid Cymru Simon Thomas wedi datgelu cynlluniau ei blaid am bolisi ynni mewn postiad blog ar gyfer y felin drafod ddylanwadol, y Sefydliad Materion Cymreig. Mae’r Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas, wedi cyflwyno cynigion am gwmni ynni newydd i Gymru, Ynni Cymru.

Mae ymyrraeth gan y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn dal i gyfyngu ar y ffordd ymlaen ar gyfer polisi ynni penodol i Gymru, yn ôl yr Aelod Cynulliad, tra bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud yr angen i fod yn hunan-gynhaliol mewn ynni yn fater o frys.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas:

Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sydd yn wynebu’r ddynoliaeth, a chyda 2016 yn debyg o fod y flwyddyn boethaf ers cychwyn cofnodi, rydym eisoes yn  teimlo ei effeithiau. Os ydym o ddifrif am dorri allyriadau Cymru o 80% erbyn 2050, fel sydd wedi ei ddatgan yn Neddf Amgylchedd Cymru 2016, a chyrraedd y targed y cytunodd pob plaid arno o dorri allyriadau o 40% erbyn 2020, rhaid i ni weithredu yn awr.

 

Mae rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth ‘Mynd â Chymru Ymlaen’ yn denau iawn pan ddaw’n fater o bolisi ynni. Mae ymateb Plaid Cymru i’r her hon yn ein Rhaglen yr Wrthblaid 2016 -21 yn gosod allan sut y dylid mynd i’r afael â newid hinsawdd ar draws holl gylch gorchwyl y llywodraeth a gweledigaeth am Gymru sydd yn lleihau ei hallyriadau carbon, yn harneisio ei hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn manteisio ar gyfleoedd yn yr economïau carbon-isel a chylchol.

 

“Mae gan San Steffan o hyd ormod o rym dros benderfyniadau ar ynni. Os bydd Mesur Cymru yn pasio, bydd gan Gymru bwerau cydsynio dros brosiectau ynni hyd at 350 megawatt a fyddai’n tynnu llinell fympwyol i wahanu prosiectau yn dibynnu ar eu maint. Hefyd, yn Llundain y mae penderfyniadau am gymhellion ariannol dros ynni adnewyddol a dyfodol y gridiau nwy a thrydan yn cael eu cymryd. Mae hyn yn gyfyngiad annerbyniol ar Gymru gan benderfyniadau polisi Llywodraeth y DG.

Fodd bynnag, y mae cam mawr y gall Llywodraeth Cymru ei gymryd i gynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau adnewyddol. Hynny fyddai sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru, a fydd yn cael ei redeg fel cwmni nid-am-ddifidend ar hyd braich o Lywodraeth Cymru, gan fuddsoddi’r elw mewn gwell gwasanaethau a phrisiau.

 

“Rwyf yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, yn dilyn pwysau gan Plaid Cymru, i adolygu’r angen am sefydlu cwmni nid-am-ddifidend ar hyd braich o Lywodraeth Cymru.

 

“Byddai cylch gorchwyl Ynni Cymru yn cynnwys amrywiaeth o feysydd gan gynnwys lleihau swm yr ynni a ddefnyddir mewn cartrfefi a busnesau, cyllido sefydlu paneli solar, hwyluso’r defnydd o dir cyhoeddus at ddibenion ynni adnewyddol, a llawer mwy.

 

“Mae’r penderfyniad i adael yr EU yn golygu y dylem fod yn symud yn gynt tuag at fod yn hunan-gynhaliol mewn ynni. Credwn y gallwn gynhyrchu cymaint o drydan ag sy’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru o ffynonellau adnewyddol erbyn 2035. Byddai gan Ynni Cymru ran allweddol i gyrraedd y nod hwn a chyfrannu hefyd at dargedau newid hinsawdd Llywodraeth Cymru.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.