AC Plaid Cymru yn galw ar San Steffan i godi a chefnogi gweithwyr Tata

22331847610_c8dd10b3fc_z.jpg

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i gefnogi gweithwyr Tata ar ôl iddynt bleidleisio dros dderbyn bargen newydd sydd yn delio gyda’u pensiynau.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad o Blaid Cymru, sydd wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi gweithwyr Tata Llanelli:

“Mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth San Steffan yn gweithio’n gadarnhaol i gadw cynhyrchiant dur yng Nghymru.

“Mae gweithwyr dur Tata wedi cymryd cam dewr iawn a nawr mae rhaid i Lywodraeth San Steffan gwneud yr un peth, gan gynnwys ystyried cymryd cyfan yn y cwmni.

“Rhaid i Tata profi’r £1biliwn o fuddsoddiad a addawai a dylai Llywodraeth San Steffan gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod rhan o’r arian hynny yn dod i Lanelli.”

“Roedd hi’n siomedig iawn i ddarganfod nad oedd Llywodraeth San Steffan yn gweld y diwydiant dur fel blaenoriaeth ar ôl Brexit mewn dogfen a ddatgelwyd ar hap. Unwaith eto, mae’r Ceidwadwyr wedi profi eu dirmyg tuag at ddosbarth gweithiol Cymru. Ni fyddai unrhyw un yn derbyn cau ein diwydiant dur fel canlyniad o adael yr UE.

“Byddaf yn parhau i wthio Llywodraeth Cymru i barhau eu sgyrsiau gyda San Steffan a Tata er mwyn cefnogi ein gweithwyr dur,”

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.