Plaid Cymru yn codi'r cwestiwn ar argyfwng deintyddol Arberth

simon_3.jpg

 

Mae Simon Thomas o Blaid Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru am yr argyfwng sy'n wynebu Gofal Deintyddol y GIG yn Arberth yn dilyn cau'r practis deintyddol yng Nghanolfan Iechyd Arberth.

Dywedodd Ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro: "Mae'n edrych fel petai'r cam diweddaraf yn rhan o batrwm ehangach Lywodraeth Cymru o leihau gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro wrth iddynt eisoes lleihau darpariaethau hanfodol yn Ysbyty Llwynhelyg.

"Tra bod Llywodraeth Cymru yn hawlio iddynt gynyddu gwariant ar iechyd, mae pawb yn ymwybodol mai prin yw'r gwariant gweledol ar lawr gwlad. Y gwirionedd yw, mae iechyd yng Nghymru yn cael ei gamreoli a'i esgeuluso o dan y Blaid Lafur.

"Rwyf yn ofni bod gwasanaethau deintyddol y GIG sydd ar gael yn lleol yn annigonol i'r alw sydd ar gael yn Arberth"


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.