Peidiwch Anghofio i Gofrestru i Bleidleisio

ebbi_nus_simon.jpg

Cyfarfu Aelod Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas gydag is-lywydd UCM Cymru Ebbi Ferguson i drafod sut mae annog fwy o bobl ifanc i bleidleisio.

Roedd yr Aelod Cynulliad dros y Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cymryd rhan mewn hysting i bolisïau addysg a chyfarfu gyda'r cyn myfyriwr ar ôl hynny.


Dywedodd yr AC Simon Thomas: "Mae fy nghydweithiwr Bethan Jenkins a minnau wedi cyflwyno cynnig yn y Cynulliad Cenedlaethol yn galw ar fwy o ymdrechion i gael fwy o bobl i gofrestru i bleidleisio.

"Mae Plaid Cymru yn credu y dylwn gael senedd Ieuenctid i bobl ifanc Cymru. Mae astudiaethau yn dangos, cyn gynted y byddwn yn cael pobl ifanc i ymgysylltu â gwleidyddiaeth, y fwyaf tebygol yw hi eu bod nhw am ymgysylltu am oes."

Ebbi Ferguson, Is-lywydd UMC Cymru:

"Mae rhaid i bobl ifanc codi ei lleisiau yn yr etholiadau ym mis Mai. Mae pobl ifanc yn llai tebygol o gofrestru, heb sôn am bleidleisio. Nid oes gennym lais os nad ydynt yn troi i fyny i bleidleisio. Os nad ydynt yn pleidleisio ni fyddwn yn cael ein cynrychioli gan ein gwleidyddion."

'Mae Gwleidyddiaeth yng Nghymru yn effeithio ar fywydau pobl ifanc; o ddarpariaethau trafnidiaeth i argaeledd y cyrsiau hoffwn astudio. Rwy'n annog pawb i fynd ar-lein, cofrestru i bleidleisio a bwrw eich pleidlais ar y 5ed o Fai."

Darganfyddwch mwy fan hyn: http://www.aboutmyvote.co.uk/cymru


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.