Penblwydd Arbennig i Blaid Cymru

maenclochog.png 

Bydd Plaid Cymru'n nodi hanner can mlynedd lansio ei changen ym Maenclochog gyda noson ddathlu arbennig Nos Iau, 27 Ebrill (am 7:30pm yn Neuadd Gymuned Maenclochog).

Sefydlwyd y gangen yn sgil yr isetholiad enwog ym mis Gorffennaf 1966 pan gipiodd Gwynfor Evans y sedd gyntaf erioed i Blaid Cymru ennill yn San Steffan.

Bydd y noson yn dwyn i gof y dyddiau hynny, ond hefyd yn edrych ymlaen at y sialensiau newydd sy'n wynebu Sir Benfro a Chymru yn ystod yr 21ain ganrif, meddai Hefin Wyn, a fydd yn ymladd ar gyfer sedd ar y cyngor sir yn yr etholiadau ar 4 Mai.

"Dwi’n ymwybodol mai Bro Waldo yw Bro Maenclochog. Hau’r hedyn mwstard oedd Waldo Williams pan safodd fel ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn Sir Benfro yn 1959" meddai Hefin Wyn.  "Mae’n bryd i’r hedyn mwstard ddwyn ffrwyth ym mro ei blentyndod."

Bydd gwesteion yn cynnwys arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor sir, y Cyng. Michael Williams a chadeirydd Cymdeithas Hanes Plaid Cymru Dafydd Williams. Bydd adloniant gan ddoniau lleol.

Creda Simon Thomas AC, Aelod Rhanbarthol y Canolbarth a’r Gorllewin, bod gan Sir Benfro gyfle euraidd am ddyfodol gwell dros y misoedd nesaf:

“Wythnos nesaf, mi fydd gan drigolion Sir Benfro cyfle i anfon neges i Lafur ym Mae Caerdydd a’r Torïaid yn San Steffan bod ddim modd iddynt ein hanwybyddu ni rhagor, drwy ethol nifer o Gynghorwyr brwdfrydig a gweithgar o Blaid Cymru.

“Mae gennym ymgeiswyr ar draws y sir sydd â gwreiddiau dwfn yn eu cymunedau lleol. Mae gennym ymgeiswyr brwd sydd am glywed eich llais chi a gwrando ar eich cymuned chi. Gallwch wireddu hyn drwy bleidleisio dros eich plaid leol, Plaid Cymru.”

“Wrth gwrs, mae gennym Etholiad Cyffredinol ym mis Mehefin a dyma gyfle i ethol ASau Plaid Cymru sydd am amddiffyn Sir Benfro. Gyda Llafur yn wan a rhanedig, Plaid Cymru yw’r unig blaid y gallwch ymddiried ynddi i amddiffyn Cymru rhag y Torïaid. Mae Cymru yn wynebu peryglon difrifol wrth i’r etholiad hwn agosáu. Mae ein heconomi, ein cymunedau, ein hamaeth a hyd yn oed ein hunaniaeth dan fygythiad oddi wrth y Torïaid creulon ac anghyfrifol.

“Felly, gadewch i ni yrru neges i San Steffan a Bae Caerdydd – gwnewch hanes ym Mro Maenclochog a phleidleisiwch dros Blaid Cymru.” 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.