AC Plaid Cymru yn cwestiynu’r Prif Weinidog dros ddyfodol gwasanaethau pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg

Simon_ysbyty_withybush.jpg

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi cwestiynu’r Prif Weinidog Carwyn Jones dros ddyfodol gwasanaethau pediatrig dros nos yn Ysbyty Llwynhelyg.

 

Gofynnwyd y cwestiwn gan Simon Thomas, Aelod y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog ar ddydd Mawrth ar lawr y Senedd.

Dywedodd Simon Thomas AC:

“Mae yna fesurau dros dro mewn lle ar gyfer gwasanaethau pediatrig yn Sir Benfro ond dros dro yn unig yw’r mesurau hynny. Mae’n hanfodol bwysig bod gwasanaethau pediatrig dros nos barhaol yn cael eu hadfer yn Ysbyty Llwynhelyg.

“Fel ymgyrchwr a chefnogwr hirdymor dros sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal yn Sir Benfro, mae’n siomedig i weld diffyg cynllunio hirdymor gan Lywodraeth Llafur Cymru.

“Mae’n hen bryd i’r Ysgrifennydd Iechyd a Llywodraeth Cymru i wrando ar anghenion bobl Sir Benfro, rhoi’r gorau i ganoli gwasanaethau hanfodol ac adfer gwasanaethau pediatrig dros nos barhaol i Ysbyty Llwynhelyg.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.