AC yn cyflwyno cwestiwn ar frys ynglŷn â cholled 146 swydd yn Llanelli

22331847610_c8dd10b3fc_z.jpg

Mae AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi cyflwyno cwestiwn ar frys i Lywodraeth Cymru ynglŷn â phenderfyniad Llywodraeth San Steffan i gau swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau ar Stryd Stepney, Llanelli.

 

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas: 

“Rwyf wedi gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi Ken Skates i gyflwyno datganiad ynglŷn â’r 146 swydd sydd o dan fygythiad yn Llanelli. Mi fydd toriadau creulon y Ceidwadwyr yn cael effaith negyddol dros ben ar Lanelli. Tra bod Cyngor Sir Gaerfyrddin, dan arweiniant Blaid Cymru, yn ceisio annog fwy o weithgarwch a denu fwy o bobl i dref Llanelli, mae’r Ceidwadwyr yn Llundain yn ceisio sicrhau’r gwrthwyneb.”

 

Mae Llywodraeth San Steffan yn cynnig swyddi tebyg yng Nghaerdydd, Penfro neu Ferthyr Tudful.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.