Galw am gadw brand bwyd Cymru er gwaethaf Brexit

Mae Ysgrifennydd y Cabinet Cysgodol ar Faterion Gwledig, Simon Thomas, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y bygythiad i frandio bwyd o Gymru ar ôl Brexit o ddifrif. Mae’r Aelod Cynulliad wedi cyflwyno cynnig yn galw ar y gweinyddwyr, sydd yn cael eu harwain gan Lafur, i sicrhau bod bwyd o Gymru yn cael ei adnabod felly wrth inni adael yr UE.

Simon_Thomas_official_for_website.jpg

Yn y datganiad barn, mae AC y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas wedi llongyfarch Carwyn Adams a’i deulu o Gaws Cenarth ar ennill statws o Enw Bwyd â Warchodir gan yr Undeb Ewropeaidd (PFN) am gaws Caerffili traddodiadol Cymreig.

Mae gan Gymru 15 o gynhyrchwyr bwyd a diod sydd wedi ennill statws PFN.

Dywed Simon Thomas o Blaid Cymru:

“Mae’n ffermwyr a’n cynhyrchwyr bwyd ni ein hunain yn elwa o bob ceiniog yr ydym yn ei wario ar fwyd o Gymru. Mae’n hybu’r economi leol, mae’n well ar gyfer yr amgylchedd o ran milltiroedd bwyd, ond eto, rydym yn dueddol o sibrwd am ein bwyd yn hytrach na seinio’r utgyrn. Os ydych chi’n credu bod eich profiad o fwyd yng Nghymru yn druenus heddiw, mi fydd gan gwaith gwaeth wrth i Brexit fynd yn ei flaen.

“Y ffordd orau o symud bwyd Cymru yn uwch ar y gadwyn ansawdd, gan wella allforion a phrisiau, oedd dynodi’r statws o Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig(PGI). Amcangyfrifa Hybu Cig Cymru bod 25% o’r twf yn allforion cig oen Cymreig rhwng 2003 a 2012 yn gallu cael ei briodoli i’w statws PGI.

“Yn rhyfeddol, fodd bynnag, wrth inni adael yr UE, does dim cadarnhad o barhad y statws PGI i fwyd Cymru nag addewid y byddai’n cael ei frandio yn fwyd o Gymru. Mae’n bwysig bod bwyd Cymru yn cael ei adnabod felly wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na’i fod yn cael ei orchuddio â Jac yr Undeb neu’n cael ei farcio fel ei fod o rhyw Brydain ddaearyddol annelwig.

“Mae hyn yn hanfodol ar gyfer hunan-hyder ein cenedl a’n heconomi. Mae cwmnïau bwyd a diod yn troi bron i £7biliwn y flwyddyn ac mae allforion wedi cynyddu bron i 13% yn 6 mis cyntaf 2016 – cynnydd o £15.2miliwn yn ei hun.

“Nawr yw’r amser y dylen ni roi ein troed ar y sbardun ar frandio bwyd o Gymru felly, gyda hanes clir i’w ddweud am ei ansawdd ardderchog, ffynhonnell y bwyd, lles anifeiliaid a’r safonau amgylcheddol.

“Dydw i heb fy argyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n cymryd y bygythiad hwn i frandio bwyd Cymru o ddifrif. Cawsant wared o’n gwobrau bwyd ein hunain yn 2013. Roedd gan “Gwir Flas” ymgyrch farchnata i’w chwennych ac roedd yn adrodd hanes ansawdd ein bwyd. Rydym angen dod a’n gwobrau bwyd ein hunain yn ôl, heb orfod dibynnu ar “enillwyr Cymreig” yng nghystadleuaeth “Great Taste” y DU.

“Coda wobrau statws yn ogystal â rhoi uchelgais o fewn y sector. Byddai Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Plaid Cymru wedi dynodi 2018 fel Blwyddyn Genedlaethol o Fwyd a Diod Cymru i hybu cynnyrch o safon ein gwlad mewn ymgyrch barhaus a dwys am flwyddyn gyfan i annog cwsmeriaid yn y DU a thros y môr i brynu mwy o gynnyrch o Gymru.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.