Galwad am ddadl Cynulliad ar Bil Cymru ac ar Adolygiad y Comisiwn Ffiniau ar etholaethau

Theresa_May_llun_.jpg

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Simon Thomas, rydym wedi colli cyfle wrth i’r Tŷ Cyffredin basio Bil Cymru.

 

Mae’r AC dros y Canolbarth a’r Gorllewin wedi galw am ddadl yn y Senedd i drafod effaith Bil Cymru a’r effeithiau posib ar gynigion i newid ffiniau etholaethau San Steffan.

 

Mae Simon Thomas, Aelod y Cabinet Cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi’i siomi gan y Bil:

 

“Roedd Bil Cymru yn gyfle euraidd i roi terfyn ar yr ymyrraeth gyson ar ein setliad datganoli. Dylai’r Bil sicrhau setliad parhaol i bobl Cymru, ond unwaith eto, mae San Steffan wedi mynnu rhoi setliad israddol i Gymru, yn cadarnhau ein statws fel cenedl israddol i weddill y Deyrnas Unedig. Y canlyniad? Bill cyflawn sydd eisoes wedi pasio’i dyddiad terfyn.”

 

“Dyma oedd cyfle Cymru i gael Senedd eu hunain, gyda’r adnoddau angenrheidiol i fynd i’r afael ar yr heriau enfawr sydd yn wynebu ein heconomi, ein GIG ac ein system addysg.

 

“Mae’n anghredadwy bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sydd gyda’r swydd o warchod a chynrychioli buddiannau Cymru yn y Llywodraeth, wedi pleidleisio mor amlwg yn erbyn buddiannau Cymru. 

 

“O adnoddau naturiol a phlismona i feysydd awyr a chyfrifoldeb ariannol, mae San Steffan wedi ymladd yn erbyn buddiannau Cymru. Ond yn fwyaf rhyfeddol, mae’r Blaid Lafur wedi gweithio ar y cyd gyda'r Torïaid i sicrhau bod Cymru’n parhau’n israddol - hyd yn oed wrth gymharu gyda Manceinion a Birmingham

 

“Tra bod y Prif Weinidog yn dweud bod ei blaid yn cefnogi Awdurdodaeth Gyfreithiol Gymreig, datganoli plismona ac ariannu teg i Gymru, mae penaethiaid y Prif Weinidog yn San Steffan yn gwrthwynebu’r un egwyddorion.

 

“Mi fyddai Blaid Llafur unedig, cryf wedi sicrhau bargen well i Gymru, ond nid oes fath beth a Phlaid Lafur unedig, cryf hyd yn hyn. Mae’r Blaid ar ei ffordd allan a diolch byth bod Plaid Cymru yna i amddiffyn buddiannau Cymru. “

 

Yn ôl adroddiad y Comisiwn Ffiniau, mi fydd Cymru yn colli dros chwarter o’u hetholaethau, wrth iddynt hwy leihau o 40 i 29 etholaeth San Steffan. Dywedodd Simon Thomas AC bod angen sgwrs gynhwysfawr ar y datblygiad:

 

“Rwyf wedi galw am ddadl yn y Cynulliad i drafod ymagwedd Llywodraeth Cymru wrth geisio diwygio Bil Cymru drwy Dŷ’r Arglwyddi a thu hwnt.

 

“Dylai Bil Cymru adlewyrchu adroddiad etholaethau’r Comisiwn Ffiniau.

 

“Os rydym yn colli cynrychiolaeth yn San Steffan, dylid cael cydbwysedd teg drwy drosglwyddo’ pŵer dros y polisïau perthnasol i Gymru. Yn 2005, fe leihawyd cynrychiolaeth yr Alban yn San Steffan ac i sicrhau cydbwysedd, bu newid mawr a chryfhawyd pŵer yr Alban.

 

“Unwaith eto, mae San Steffan yn gwrthod cynnig yr un cyfrifoldebau a phwerau i Gymru a chynigir i’r Alban a Gogledd Iwerddon, er bod cynrychiolaeth San Steffan Cymru yn cael ei dorri yn enfawr.

 

“Wrth i etholiadau’r Cynulliad cael eu datganoli, mae rhaid i  Lywodraeth Cymru ymateb i’r ffaith ni fydd ffiniau etholaethau San Steffan a’r Cynulliad yn cyfateb.

 

“Croesawn ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â’u hegwyddorion a’u strategaeth ar y mater.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.