AC Plaid Cymru yn llawn balchder wrth i Aberystwyth gynnal gwylnos yng ngolau cannwyll dros Aleppo

Simon.jpg

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas wedi pwysleisio’r balchder ac edmygedd oedd ganddo tuag at bobl Aberystwyth wedi gwylnos yng ngolau cannwyll cael ei gynnal yn y dref nos iau ddiwethaf. Cynhaliwyd y digwyddiad mewn undod â chefnogaeth i bobl Aleppo.

Cynhaliwyd yr wylnos wedi i’r rhyfel hir rhwng grymoedd milwrol yr Arlywydd Assad a gwrthryfelwyr Syria arwain at farwolaethau a dinistr annisgrifiadwy yn Ninas Aleppo.

Sillafwyd enw’r ddinas hanesyddol mewn canhwyllau a osodwyd yn Aberystwyth ac areithiodd ffoaduriaid o Syria i’r dorf. Dyma’r ffoaduriaid cyntaf i gael lloches a noddfa yng Nghymru.

Dywedodd Simon Thomas AC, breswylydd o Aberystwyth:

“Unwaith eto, mae Aberystwyth wedi profi bod rhai o bobloedd fwyaf gofalgar, tosturiol ac anhunanol y Deyrnas Unedig yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Yn ogystal â bod y Sir gyntaf yng Nghymru i groesawi ffoaduriaid o Syria gyda breichiau agored, mae pobl Ceredigion wedi darparu cefnogaeth i bobl sy’n dioddef ar draws y byd yn gyson.

“Mae ymgais Llywodraeth Syria i adennill Aleppo wedi arwain at erchyllterau annisgrifiadwy ar ddynion, menywod a phlant diniwed o Syria. O ddienyddiadau a diflaniadau gorfodol i artaith a thrais rhywiol, rydym yn llygad-dystion i Fosnia a Rwanda’r presennol, a beth rydym yn gwneud?

“Unwaith eto, mae Llywodraeth San Steffan yn anwybyddu’r erchyllterau hyn ac yn eistedd yn segur wrth i gannoedd o filoedd o bobl farw.

“Hoffwn ddiolch i bobl Aberystwyth am ddangos undod gyda phobl Aleppo, ac unwaith eto, erfyn ar Lywodraeth San Steffan i weithredu.”

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.