Aelodau Cynulliad yn croesawi ymgyrchwyr Ysbyty Llwynhelyg tu allan i'r Senedd

12804392_10153618828974139_392096312_n.jpg

Ymunodd yr AC Simon Thomas gydag ymgyrchwyr iechyd tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd i groesawi ddeisebwyr sydd yn ymladd i adfer gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg.

Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas: "Roedd yn wych i gyfarfod â chymaint o ymgyrchwyr iechyd o Sir Benfro a ddaeth i'r Senedd ym Mae Caerdydd ar Ddydd Mawrth. Gwnaethant ymladd yr achos dros ddychwelyd gwasanaethau pediatig 24-awr i Ysbyty Withybush."

"Hoffwn longyfarch y tad o Sir Benfro, Myles Bamford-Lewis o Ddinas am gasglu dros 20,00 llofnod mewn amser mor fyr fel rhan o'r ymgyrch dros y gwasanaethau. Creodd Myles y ddeiseb ar ddechrau'r flwyddyn. Cwrddodd grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad gyda Myles i drosglwyddo’r ddeiseb i'r Gweinidog Iechyd."

"Roedd nifer y deisebwyr yn dangos i Lywodraeth Cymru nerth teimladau pobl Sir Benfro ynglŷn â'r gwasanaethau hyn."

"Roedd yn bwysig fod yna ymgyrch brotest tra oedd Cynulliad Cymru mewn sesiwn. Dywedais wrth yr ymgyrchwyr y byddai ymrwymiad ym Maniffesto Plaid Cymru ynglŷn ag adfer y gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.