Aelod Cynulliad yn cefnogi menter diweddaraf NFU Cymru a Gweithwyr Mudol o’r Undeb Ewropeaidd yn y Senedd

Back_welsh_farming_NFU.jpg

Roedd yr Aelod Cynulliad dros y Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas yn awyddus i hyrwyddo gwaith undebau amaethyddol Cymru yn ystod cyfarfod lawn yn y Senedd.

Bu Simon Thomas, Llefarydd yr Wrthblaid dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn trafod yn ystod sesiwn Cwestiynau i’r Ysgrifenyddion Cabinet dydd Mercher diwethaf, le gofynnodd i’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Lesley Griffiths i gefnogi’r ymgyrch:

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi’n gwybod, efallai, bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru yn cynnal ymgyrch ar hyn o bryd i annog pawb i brynu o leiaf pum cynnyrch o Gymru. A fedrwch chi enwi'r pum cynnyrch diwethaf Cymreig y bu i chi eu prynu? A beth rydych chi’n ei wneud fel Gweinidog i ddiogelu bod cwsmeriaid yn gwybod bod eu cynnyrch nhw yn dod o Gymru?”

Yn ffodus, gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet llwyddo enwi’r pum cynnyrch diwethaf i brynu o Gymru, ond gofynnodd AC Plaid Cymru Simon Thomas am well eglurder am bolisi Amaethyddol Llywodraeth Cymru:

Mae Llywodraeth San Steffan wedi nodi bod y taliadau fferm sengl a’r taliadau amgylcheddol am barhau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin hyd at 2020. Felly, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i’r un addewid.

“Yn ystod yr amseroedd ansicr sydd ohoni ym myd amaethyddol Cymru, mae’r taliadau fferm sengl a’r Rhaglen Datblygu Wledig yn adnoddau hanfodol i sicrhau dyfodol llewyrchus a chryf i gefn gwlad Cymru.”

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet cadarnhau bod y taliadau uchod am barhau hyd at 2020.

Dim dyfodol ariannol Cefn Gwlad Cymru oedd yr unig achos oedd Llefarydd yr Wrthblaid dros Faterion Gwledig am godi yn y Senedd:

“Yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog dydd Mawrth diwethaf, Fe greoedd y Prif Weinidog cryn ddryswch ynglŷn â’i safiad ar fynediad i’r farchnad sengl. Rydym dal yn ansicr os ydyw’r Prif Weinidog yn cefnogi mynediad i’r Farchnad Sengl drwy gytundeb masnach deg sydd gyda thariff neu aelodaeth o’r farchnad sengl sy’n cynnwys rhyddid i symud.

“Nid yw’r ansicrwydd hyn yn helpu sefyllfa’r gweithwyr sydd wedi mudo o’r UE i gyfrannu’n werthfawr i economi cefn Gwlad Cymru. Sefyllfa sydd eisoes yn fregus dros ben. Yn ôl ymchwil gan Ganolfan Llywodraethant Cymru, nid yw’r mudiant o weithwyr o’r UE wedi arwain at lefelau uwch o ddiweithdra ymysg dinasyddion o’r DU yn y sector amaeth, gyda’r mwyafrif o fudwyr yn cymryd swyddi sydd yn anodd eu llenwi.

“Mae yna dros 34,000 o weithwyr sy’n enedigol o du allan i’r DU yn gweithio yn y sector amaeth. Felly, roeddwn yn awyddus i ddysgu am y sgyrsiau mae Llywodraeth Cymru wedi cael gyda San Steffan dros sicrhau parhad y gweithlu o fewnfudwyr sy’n hanfodol i’r sector amaethyddol.

“O system fewnfudo sy’n seiliedig ar deithebau i system pwyntiau o fewnfudo, mae yna amrywiaeth o systemau a strategaethau wedi cael eu cynnig. Ond beth sy’n hanfodol bwysig, yw bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r miloedd o weithwyr gwerthfawr o’r UE sy’n byw yng Nghymru.

“Mae angen polisi mewnfudo annibynnol ar Gymru er mwyn sicrhau nad ydym yn colli allan ar weithwyr gweithgar o achos ‘Wal Fawr Calais’ a Llywodraeth Brydeinig sy’n ein gwthio i ben eithaf yr asgell dde.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.