Myfyrdodau am 2017…

Simon_assembly.jpg

Ar ôl flwyddyn gythryblus a flinedig, dyma ychydig fyfyrdodau ar gyfer 2017.

Yn gyntaf, newid hinsawdd yw’r bygythiad fwyaf sy’n wynebu dynoliaeth. Yn flynyddol, mae tymereddau byd-eang a thywydd eithafol yn tanlinellu’r duedd hon.

Os ydym o ddifri am dorri allyriadau Cymru o 80% erbyn 2050 a chyrraedd y targed o dorri allyriadau o 40%, fel y cytunwyd arni yn drawsbleidiol, erbyn 2020, rhaid i ni weithredu nawr.

Mae San Steffan yn parhau i ddal gormod o rym dros benderfyniadau ynni. Os pasiwyd Bil Cymru'r flwyddyn hon, mi fydd Cymru’n derbyn pwerau cydsynio dros brosiectau ynni hyd at 350 megawat, ac felly’n gosod llinell fympwyol sy’n gwahanu prosiectau’n dibynnu ar eu maint.

Ar ben hynny, mae cymhellion ariannol dros ynni adnewyddadwy a dyfodol gridiau trydan a nwy yn cael eu penderfynu yn Llundain. Mae hyn yn gyfyngiad annerbyniol ar Gymru gan benderfyniadau polisi’r Llywodraeth Brydeinig.

Fodd bynnag, mae yna gam mawr gall Llywodraeth Cymru gymryd er mwyn cynyddu cynhyrchiad ynni o ynni adnewyddadwy. Hynny yw, sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru, cwmni a fyddai’n rhedeg nid-er-difidend a lled braich o Lywodraeth Cymru, wrth fuddsoddi elw mewn gwell gwasanaethau a phrisiau.

Rwy’n croesawi ymrwymiad diweddar Lywodraeth Cymru, yn dilyn pwysau gan Blaid Cymru, i adolygu’r angen am gwmni ynni nid-er-difidend.

Byddai cylch gwaith Ynni Cymru yn cynnwys ystod eang o feysydd gan gynnwys lleihau’r treuliant o ynni ym musnesau a thai, ariannu’r gosodiad o baneli solar, hwyluso’r defnydd o dir cyhoeddus ar gyfer dibenion ynni adnewyddadwy a mwy.

Brexit

Mae’r penderfyniad i adael yr UE yn meddwl y dylwn gyflymu tuag at hunangynhaliaeth ynni. Credwn ein bod yn gallu cynhyrchu cymaint o drydan ac sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru o Ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Byddai gan Ynni Cymru rôl hanfodol i gyflawni’r nod hwn wrth gyfrannu at dargedau newid hinsawdd Llywodraeth Cymru.

I amaethyddiaeth a’r amgylchedd, mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn meddwl bod rhaid i ni ddatblygu polisïau ein hun. Y bygythiad yw, byddai Llywodraeth San Steffan yn ceisio adfachu pwerau wrth iddynt ddychwelyd o Ewrop.

Rwy’n dal i gredu mai Cymru annibynnol, yn cydweithredu gyda’n cyd-wledydd Ewropeaidd fyddai’r ateb tymor hir gorau posib. Mae’r penderfyniad i adael yr UE yn golygu bod y daith i’r dyfodol hwn am newid, ond nid wyf yn ymddiried mewn unrhyw lywodraeth San Steffan i roi anghenion Cymru a’i dinasyddion yn gyntaf.

President Trump

Yn anffodus, mae yna duedd gynyddol yn nemocratiaethau gorllewinol o’r defnydd o rethreg gwrth-sefydliad yn cael ei ddefnyddio gan y cyfoethog a’r pwerus fel llwybr i rym.

Mae pobl wedi cael eu dieithrio a’u hanwybyddu gan wleidyddiaeth a pholisïau economaidd. Yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghymru, mae rhai o’r ardaloedd a bleidleisiodd mor gryf dros Trump a Brexit wedi’u niweidio’n enbyd gan ddiffyg cyfleoedd. 

Ni fydd Plaid Cymru yn dieithrio ac anwybyddu’r bobl yma. Byddwn yn parhau i ymestyn dwylo o rheini sydd wedi’i dwyllo gan bleidiau’r poblyddwyr asgell-dde, oherwydd, ar faterion megis anghydraddoldeb cyfoeth, mae angen atebion pendant arnom.

Mae Plaid Cymru wedi camu ymlaen yn etholiadau a pholau piniwn diweddar am reswm: Mae pobl yn ymddiried ynom ar lefel lleol a chymunedol. Ond mae yna lawer fwy i’w gwneud. Mae Plaid Cymru yn cynnal gwerthodd agored a chynhwysol, wrth barhau i gynnig dewis amgen i Sefydliad San Steffan.

Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.